Un Enaid Bach
    Plentyn yw plentyn a 
    mam ydy mam
    Bomiau yw bomiau a fflam ydy fflam;
    Sgechian a chrio uwch-ben y cryd
    A baban bach sydd 
    llond y byd.
    Plentyn yw plentyn, ble 
    bynnag y bo:
    Israel, Lebanon - yr un ers cyn co;
    A dim ond un anrheg ddymunwn,  Dduw:
    Dyro inni heddiw 
    yr hawl i fyw.
    Un enaid bach sy'n llond y byd
    Un enaid bach sy'n drysor mor ddrud,
    Un enaid bach a'i gan mewn crud,
    Un enaid bach sy'n llond y byd.
    Blentyn y storm – fe 
    ddaw heddwch i’th gryd,
    Blentyn y storm boed dy gan lond y byd:
    A boed i ti’r hyder i gamu mewn ffydd:
    A boed i tithau 
    fyw yn rhydd.