Y gyfrol Gymraeg gyntaf i'w gosod ar y we fyd-eang - Rhagfyr 1996.

Robin Llwyd ab Owain: y bardd cyffrous

Enw gwreiddiol y gyfrol oedd 'Rebel ar y We'.
Newidiwyd 22 Mai, 2006.

Caneuon   Cerddi   Adref

 

St Emilion
Mae'r wefan hon bron yn:
12 oed !

Cyfrol o gerddi

www.barddoniaeth.com
gan y rebel
robin llwyd ab owain

'Tra bo dau bydd trwbadwr...'

Cartref

Beaujolais Gwin Cartref Guinness St Emilion Bwrgwyn Potel Wag

1993 - 1999
Chwilio am y blas gorau yn hytrach na dilyn labeli ffasiynol, lliwgar.
Marwolaeth yn dangos ei hen ben hyll, ond aeddfedrwydd amser yn gadernid.


 

Patrwm   (Barddas,Chwefror 1993)
Copa   (Barddas, Medi 93)
S4C   (Y Cymro, Chwefror 1994)
Llynoedd   (Barddas, Mawrth 1994)
Erin   (Barddas, Rhagfyr 1994)
I'r Gwter   Barddas, Chwefror 1995)
Erin   (Talwrn y Beirdd, 1995)
Y Gymraeg   (ar y Rhyngrwyd) (Mawrth, 1995)
I'r Sawl Sy'n Gofalu am Blant   (Talwrn y Beirdd, 1995)
Y Pethau Bychain   (Talwrn y Beirdd, 1995)
Llinos Medi   (Yn 7 oed) (Mawrth 1995)
Hed Amser   (Barddas, Mai/Mehefin 1995)
Traeth Lafan   (Haf 1995) (Y Bedol, Mai 1996)
Robat Gruffydd   (Gwasg y Lolfa) (Y Bedol, Mai 1996) Rebel Cariad (Mai 1996, ar ol gweld meinwe'r Lolfa ar y Rhwyd)
Neuadd Neuadd Cynwyd (Y Bedol, Mai 1996)
'Nhad   (Y Bedol, Mai 1996)
Rhys Meirion   (Y We, Rhagfyr 1996. Cyflwynwyd iddo mewn noson gyfarch ym Medi, 1996)
Y Gusan   (Hydref, 1996)
Cywilydd   (Talwrn y Beirdd, Tachwedd, 1996) (Y We, Rhagfyr, 1996)
Dafydd Orwig   (Talwrn y Beirdd, Tachwedd, 1996)
Llio Eiry yn 21 oed   (Y We, Rhagfyr 1996)
Perspectif   (Y We, Rhagfyr 1996)
Wrth Sbio Drwy'r Ffenest Mewn Storm, Efo Eirian   (Barddas, Mehefin / Gorffennaf 1997)
Yr Hanesydd Emyr Preis   (Ar y we, Mawrth 1997)
Geiriau Cyntaf Erin   (Barddas, Mehefin / Gorffennaf 1997 a Mehefin 1998)
O Dan y Siwt   (Barddas, Mehefin / Gorffennaf 1997)
Isaac Jones, Abergele   (Y We, 6.4.99)
Jynci'r Ail Fileniwm,   (Y We: 4.12.99)


Patrwm

(Sgwenais hwn wedi genedigaeth Erin (8.10.93).
Bu 'Nhad farw ar 19.12.93)

A haul hydref tan lwydrew - y lloer wyt
Lliw yr haul ar olew;
Ond wedi'r gwanwyn dudew
Rhowch yr haf mewn arch o rew.





 

horizontal rule

 

Copa

(Cylchgrawn mynydda.)
Hwn yn gyson a geisiaf - yn barhaus
Tua'r brig ymdrechaf
O gam i gam ac fe gaf
Hithau'r iaith ar ei heithaf.



 

horizontal rule

 


S4C

Daeth fel gwaedlif anifail
Un o dras Edward yr Ail
O'r bru i'n llygru ni'n llwyr
A'i waedd swynol, ddisynwyr.
Do, fe anwyd breuddwydion,
Ond llef o hunllef fu hon;
Un llef hir ar ol y llall,
Mor oer. Cilmeri arall.
A'r dynion? Ble mae'r deunaw?
Mae bwyell aur ym mhob llaw,
Arian lle bu tarianau
A dafn o waed i'w fwynhau.
Di-ben ynom yw'r heniaith.
Aeth cynrhon estron drwy'n iaith
A'i chnoi hi yn swn ei chnul:
Aeth hen wyrth i ni'n erthyl.
Un sgrech faith drwy ein hiaith ni,
Un waedd o bicell drwyddi
A'r waedd yn waedd anaddas:
Seisnig gythreulig ei thras.



 

horizontal rule

 



Llynoedd

Mwclis o ddagrau yw adegau dyn
a phob un yn berl ar edau ein bod.
Yn esblygiad yr eiliadau
y mae'r adegau dyfnion
pan fo dwr diaros yr afon yn arafu:
ac yn yr ysbeidiau hynny
cyhyd a'r ennyd yw'r einioes
ac amorffig
yw hyd munudau ein hoes:
mwclis o lynnoedd rhwng blynyddoedd blin.
Ninnau, ein dau, nid ym
ond dotiau diatal
mewn cawod eira
wedi ein cenhedlu
i sbeiralu yn nuwch nos.
* * * *
Araf y llifa'r afon pan fo dyfnder i'r dwr:
mae ambell ennyd cyhyd a'n cof.
Dacw lun ohonof yn ymdrochi ac yn ymdoddi i'r dwr
yn Llyn Cob ac yn gnewyllyn gobaith:
un ennyd euraid o atgof a welaf a'i hyd fel oes,
un ysbaid oesol o'm gorffennol heb ei sgriffinio

yn ogleisiol o glir.
Ac yno yn fy mebyd a'i ennyd hir o haf,
synhwyraf berson arall
a'i dymer, a'i wen, a'i bryd morwynol
yn meirioli'r heulwen.


Robin Llwyd ab Owain yn fachgen bach ym Mangor.
( Yr awdur ychydig yn iau!)
Hwn o'r un enw a minnau a wybum, unwaith;
hwn, mor uniaith ac mor wahanol i mi!
Ai fi yw hwn? Ai hwn yw fi?
Rhyngddo a mi y mae gwacter a phellter a pherl
ein hieuenctid ffol.
Ei ddiniweidrwydd a'i onestrwydd i mi sy'n estron,
darfu pob cell ohono wrth heneiddio'r blynyddoedd
ac mae mwy na dyffrynoedd, bellach,
rhyngom ni ein dau.

Pa ran o'r egwan hwn sydd ynof fi?
Pa ran ohono a lifodd
o'r gorffenol i 'mhresenol swrth
fel edau o olau seren nad yw?
Nid oes dim yn gyffredin rhyngom,
dim ond diferion gwallgof
o atgofion
wedi croni.
* * * *
Yn Aber yr Amseroedd
a'i raeadrau o eiliadau a'i lif
yr esblygodd y gastropod yn bysgodyn
a'r pysgodyn yn ddyn a dyn yn dduw -
i ni fod yma, fy merch,
yn nhreiglad yr eiliadau hyn.
Dacw blentyn y newyn yn ciniawa
ar ei wala o wynt ac yn gloddesta ar y gwlith
i mi fwynhau cynhaeaf
yr eiliadau hyn.
Treiglodd iaith
o fileniwm i fileniwm
i mi ei chyflwyno
yn yr eiliadau hyn.
Llofruddiwyd Llywelyn
a phydrodd corff Glyn Dwr,
a'r hen bladurwr a ddychwelodd i dorri
Ghandi a Kennedy a King

er mwyn parhad yr eiliadau hyn.
Rwy'n ffrwyth y ddaear
ac rwyf iddi'n garcharor,
rwyf yn rhan o'r cyfan,
yn dalp o'r cyfanwaith -
ac mae hithau ynof,
yn fy ngwythiennau
er mwyn i mi fod yma gyda thi
yn yr eiliadau hyn.
Ac i rywun ganfod gwaddod y gerdd
wedi'r eiliadau hyn.
* * * *
Yn y llif fe welaf oleuni a graffiti'r ffair
a dacw delynor wrth y glannau ar derfyn dydd:
hwn yw baledwr y byw eiliadau
a drych i'n bywydau, bob un.
Clywch adlais a thincial chwedlau ei eiriau
yn herio alaw marwolaeth.
Clywch adlais hen nodau diflanedig
o liwiau'r oesoedd
drwy ei ganeuon yn fflworesant:
nodau gwerinol a dagrau hanes
yn hwrli-bwrli o berlau'n hollti'r awel
ar yr heltar-sgeltar.
Hyrdi-gyrdi o gordiau trydanol
heb gadwynau i'w dal yn sbeiralu,
igam-ogm wamalu
ac yn gwahanu'r gwynt.
'Dyw darfod ddim yn bod ar gerbydau'r ffair
a di-angau yw'r daith;
clywch swn iaith yn ymwthio o'r bedd
yn eiriau byw.
Diddiwedd yw'r heddiw
nad yw'n heneiddio nac yn gwywo;
y mae'n dragywydd.
Can, y rebel, can!
A daw llygedyn o haul diog
drwy benglogau'r nos,
a byd o liw lle bu sgerbwd o loer.
Can yn nrych y lli a bydd graffiti'r ffair
yn dal i sgrechian drwy sgrin y cof
a bydd heddiw'n dragwyddol.
* * * *
Pwy bia'r cyfnod pan fo'r tonnau'n gryndodau ar y dwr?
Pwy biau can y dyfroedd a fy llynoedd llaith?
Bellach, fy mab, fy amser yw dy amser di
a thithau biau bywyd ein munudau maith.
Gadawaf i ti'r gweddiau drodd ein genynnau'n gnawd
ac a asiodd dau fydysawd, rhof i ti
ein tiroedd materol: cei fy llestri lliw a'u llwch,
yr hen gloc-taid a hyd fy munudau i.
Dy eiddo di yw heddiw, dydd ein dyddiau!
A'th eiddo yw fy hafau a'm gaeafau i gyd
a chan mai ti, hefyd, yw etifedd fy heddiw,
fy eiddo fydd maldodi dy ddyfodol mud.

Gadawaf i ti 'nghaniadau, hen leidr fy nghan,
rho dithau dragwyddoldeb i'r munudau man.
* * * *
Oherwydd Fory
y diflannodd, rhywfodd, yr haf
i lawr afon y canrifoedd.
Llifodd fel hunllefau gwallgof
drwy ein bywydau beilch
gan ein bodio a'n treulio. Hyn yw trais amser!
Ein rhydu fel hen geriach a chrebachu'n byd,
fel hen dy ar lan y dwr lle bu'r gwynt
yn plicio'r plastar
ac yn pilio'r paent.
Af innau nawr i iro cleisiau'r hydref
a thacluso'r dail.
Ac i hyn y'n ganed! -
I lenwi'r craciau
yn fframiau'r ffenestri ffrynt
er mwyn y forwyn ddigyffwrdd
a elwir 'Fory'.
* * * *
Fe rewodd Llyn Petrual - a ni'n tri! -
ac ni fu rioed 'run awr mor hir, mor frau;
proffwydol o ysgytwol oedd y gwynt i ni
yn sipian cwpan amser a'i wacau.
Daeth Fory yn llechwraidd dros y llyn
i chwarae'i driciau ffiaidd gyda choed yr allt:
bu'n hollti'r ywen a dinoethi'r ynn,
parlysu'r rhuddin byw a gwynnu'n gwallt.
Gadawsom cyn i'r foment droi yn faich
gan adael gwrid ieuenctid ar ein hol,
ond Fory ddaeth i'n rhwystro gyda'r fro'n ei fraich
a llinell o geir llonydd yn ei gol;
a gwyddom pan gyrhaeddom hyn o griw
fod y cyfan, a mwy na'r cyfan, yn y ciw.
* * * *
Rwy'n fab, yn wr, yn dad, yn deulu
ac yn Gymru i gyd!
Yn rhan o fyd estronol y dyfodol,
byd y diolau a'r dall
sy'n newid mor ddi-hid o'i ddoe,
ac nid oes dim yn gyffredin rhyngom
namyn gobeithion bythol.
Un ysbaid di-baid yw ein byw
a thad amherffaith ydyw.
Minnau a anweddaf yn ol i'r mynyddoedd
yn foleciwl o niwl yn y nos.




 

horizontal rule




Iwerddon

Hir a chwerw'n carchariad - drwy'r oesoedd,
Mae drws ein goroesiad
Dan glo. Daw rhyddid i'n gwlad
O'i charcharu a chariad.




horizontal rule




I'r Gwter

(Wedi marwolaeth fy nhad)

Aeth y dail, daeth dialwr - a rhywfodd
Aeth yr haf a'i fwstwr
I geubwll hen ysgubwr;
Yna dim ond swn y dwr.
 
Llais y bardd (WAV 37KB)



 

horizontal rule

 

Erin

(Fy merch a'i gwallt aur)

Ni fu eiliad benfelen - drwy yr heth,
ond ar hyn daeth deilen
i'r weirglodd! Eginodd gwn
ei gwanwynau'n genhinen.



 

horizontal rule

 



Y Gymraeg (ar y Rhyngrwyd)

Iaith drydan, ddiwahanod, - degawdau
Digidol, iaith barod,
Am un dydd rhwng mynd a dod
Yn dadweindio Prydeindod.


 

 

horizontal rule

 



I'r Sawl sy'n Gofalu am Blant

Rhoi ei haf a'i roi o hyd - i'r llaw wag,
Rhoi holl wyrth bychanfyd,
Rhoi ei wn ac am ennyd
Yn y llaw fach mae'r holl fyd.



horizontal rule




Y Pethau Bychain

Un gram bach yw grym y byd, - un niwton
Yw natur yr hollfyd,
Genynnau biau bywyd,
Caerau'r iaith yw plant y crud.




horizontal rule




Llinos Medi

(Yn 7 oed)

Ynddi'n ieuanc - dydd newydd - ac mae'r iaith
Gymraeg yn dragywydd!
Ym mer hon mae Cymru Rydd:
Hi yw Llinos llawenydd.




 

horizontal rule

 



Hed Amser

Bum wanwyn am bum munud - yna'r haf
Am ryw winc; aeth ennyd
O Hydref i'r diawl hefyd.
Un gaeaf gwag wyf i gyd.




 

horizontal rule

 



Traeth Lafan (Haf 1995)

Amdanom yr ymdonai - ei phais wen
O'i chorff swil, a gwisgai
Am noethni 'i throsi a'i thrai
Wylofus wisg o Levis.


Gweler hefyd: Llun a Cherdd
 

horizontal rule

 



Robat Gruffydd

(Gwasg y Lolfa)
Un o'r rhai na wyr ei oed, - un o'r rhai
Ar wahan i'w gyfoed,
Un o'r rhai na wyr henoed
Un o'r rhai gorau erioed.



 

horizontal rule

 

bullet

Rebel Cariad

Ar we o obaith mae rebel - yn reiat!
Ar we'r chwyldro tawel
Ein parhad yw'n cariad cel:
Caru'r ifanc a'i ryfel...


horizontal rule



Neuadd Ysgol Cynwyd

(Yn yr Agoriad Swyddogol)

Ein holl fory'n llifeiriant - o ganu'r
Gwanwyn a'i gyfeiliant;
Ni all yr un diwylliant
Epilio'i hun heb swn plant.




 

horizontal rule

 



'Nhad

Ar y deis yng nghledr Duw - ei rif oedd;
Ar fwrdd creu-a-distryw
Un eilrif o'r ddynolryw.
Mae'n ei fedd a minnau'n fyw.




horizontal rule




Rhys Meirion

(Englynion cyfarch, wedi iddo ennill y Ruban Glas yn yr Eisteddfod Genedlaethol ym 1996).

A'r hil yn ei gwawr ola' - rhyw eiliad
Amryliw a gofia':
A gwawr oedd lliw Sangria
Ac eiliad o Dequila.

Swyn y wawr a synhwyrodd - ei denor
Jack Daniels yn gwahodd;
Uffar o haul a ddeffrodd
O'r dwr a'r wawr a dorrodd...

Ei las-fedd yn ein meddwi - a dwy don
Ei denor yn golchi
Ein bae, ac yn lliwiau'r lli -
Eiliad yn tragwyddoli...

Gwynedd ei gan yn ddigonedd, - yn don
Ac yn don ddiorwedd
Ar dywod, hwn i'r diwedd
A fydd gr, bydd fr o fedd!

Vouvray nid Beaujolais bs! - Hyfrytaf
Bafaroti'r deyrnas!
Yn Iwerddon o urddas
O gael aur y Ruban glas!

Unawdydd y munudau - tragwyddol
Fu'n troi'r gwaddod gynnau
Yn winoedd ynom ninnau
Un bore hir i'w barhau.

Rhys gwr yw Rhys y gwirod, - Rhys ag iaith
Rhys Gethin ar dafod,
Rhys y bore, Rhys barod
Heno i bawb, Rhys mwya'n bod.

A'r hil yn ei gwawr ola' - rhyw eiliad
Amryliw a gofia':
A gwawr oedd lliw Sangria
Ac eiliad o Dequila.




horizontal rule




Y Gusan

Pan grewyd ein breuddwydion
Un oedd ein hanadl ni;
Roedd llaw y bore'n lliwio
Enfysau dy wefusau di.
Yn hunllef yr hunllefau
Di-liw pob fory, di-loer;
Heno cusanais innau
Barlus dy wefusau oer.




horizontal rule




Cywilydd!

Ni all Hitler a'i dyrau - o chwerwedd
Na chariad at ynnau,
Na'r iaith, na Chymru hithau
Roi ystyr i gur a gwae.



(Ar ol ail-ddarllen gwaith Gerallt Lloyd Owen. Fe ddarllenwyd y penill ar Talwrn y Beirdd
dan y teitl 'Y Glorian'.
Chafodd o fawr o farciau, diolch byth.)

 

 

horizontal rule

 

Dafydd Orwig

Dylai'i genedl o ganwaith - boeri gwaed,
Byr ei gorff yw gobaith:
Ni ddaw nol yn ddyn eilwaith,
Ni ddaw nol. Gweddw yw'n hiaith.




 

horizontal rule

 


Llio Eiry yn 21 Oed

Yn y tywod, gweld tywallt - gwylanod
A'u sglein uwch yr emrallt.
Yn lliw'r lloer, Llio eurwallt,
Gweld Awst yn ogla dy wallt.




horizontal rule




Perspectif

Sgynai'm ots (a gwyn 'y myd) - be ydwi,
Ydwi'n bod? Am ennyd
Dwi ar gi strae ar wag stryd:
Chwanen ar bawen bywyd.
 
 

horizontal rule

 
 
 

Wrth Sbio Drwy'r Ffenest Mewn Storm, efo Eirian
(ar ol deg mlynedd o briodas)

Gwlad ysgariad, oes garwach - ei rhynwynt?
Trodd y brwyn yn ffradach;
Derwen gadarn yn gadach!
Glynaf i'n dy galon fach...

 
 

horizontal rule

 
Yr Hanesydd Emyr Preis

(gwefr oedd yr hen air am drydan.)

 
Weiren frau yn wefr o hyd, - yn dy wen
Drydanol: cyfanfyd!
Weiren fyw i'r hen fywyd,
Weiren fyw i'r hen, hen fyd.

 

 

horizontal rule

 

 

O Dan y Siwt

Roedd y cyfan mor lanwych - fy nhei,
Un fin nos sidanwych!
Ond roedd nadroedd yn edrych
Drwy wn angylaidd y drych ...


 
 

horizontal rule

 
 

Geiriau Cyntaf Erin
(Englyn Tlws W D Williams, englyn gorau'r flwyddyn.
Ni siaradodd Erin air tan ei bod yn dair mlwydd oed, ond wedyn ...)

Uwch tawelwch y teulu - y torrodd
Taran ei pharablu;
Efo iaith pob ddoed a fu
Llefarodd ein holl fory.
 

horizontal rule

 
 

Isaac Jones, Abergele
(Un o arwyr mawr y bardd.)


Llydan fel castell ydoedd - ei Gymraeg,
Mur i'r iaith a'r gwerthoedd;
Yr angerdd yn ein rhengoedd
A thwr  yr  iaith - Arthur oedd!
 
 

horizontal rule

 
 
 

Jynci'r Ail Fileniwm, (Rhagfyr 1999)

Rhwygo'i hun o ddrwg i waeth - a rhedodd
Ar wydyr bodolaeth
Mor ddi-hid, hyd onid aeth 
I wefr ola'i farwolaeth.
 
 
 
 



horizontal rule

 

 

Defnyddio'r gwaith:     Gallwch ddefnyddio'r cerddi i'w hadrodd neu eu canu fel cystadleuaeth eisteddfod, ar radio neu deledu heb ganiatad yr awdur.
Dylid, nodi ffynhonell y cerddi, ond nid y caneuon, fel www.barddoniaeth.com.
Hawlfraint y cerddi a'r safle: (oni nodir yn wahanol): Cyfrifiaduron Sycharth, Mehefin, 1996 - 2008. Cedwir pob hawl.
Caniateir islwytho'r testun i un cyfrifiadur yn unig. Caniateir gwneud un copi caled ar gyfer eich defnydd chi yn unig. Ni chaniateir gwerthu na ffeirio na benthyg unrhyw ran o'r testun na'i drosglwyddo mewn unrhyw fodd i unrhyw berson neu bersonau arall heb ganiatad ysgrifenedig y cyhoeddwr yn gyntaf. Erlynir y diawled diegwyddor sy'n torri'r amodau hyn mewn llys barn.