Y gyfrol Gymraeg gyntaf i'w gosod ar y we fyd-eang - Rhagfyr 1996.

Robin Llwyd ab Owain: y bardd cyffrous

Enw gwreiddiol y gyfrol oedd 'Rebel ar y We'.
Newidiwyd 22 Mai, 2006.

Caneuon   Cerddi   Adref

 

Dyfyniaidau
Mae'r wefan hon bron yn:
12 oed !

Cyfrol o gerddi

www.barddoniaeth.com
gan y rebel
robin llwyd ab owain

'Tra bo dau bydd trwbadwr...'

Cartref

 

 

Dyfyniadau

"Credaf dy fod yn defnyddio'r gynghanedd mewn modd cyfoes, cyffrous, arbrofol a mentrus, a da o beth hynny: dangos pa mor gyfoes y gall y gynghanedd fod.

(Alan Llwyd, Tachwedd 1984)


"Diolch am fardd sy'n edrych o'i amgylch yn lle edrych yn ol. Mae'n fardd aruthrol, a bu darllen ei awdl yn brofiad ysgytwol ... torrodd dir newydd o safbwynt yr awdl eisteddfodol."    
(Y Prifardd Eirian Davies, 1991)

 

"Ceir egni afieithus a newydd-deb brwd ... mae iechyd yn agosatrwydd ei ddelweddau at ein bywyd ni heddiw.
Canu profiadau ei genhedlaeth a wna gan naw wfftio, felly, rhai o ddamcaniaethau Syr John Morris Jones."    
(Branwen Jarvis, 1991)

 

"Mae'r gerdd yn ymddangosiadol syml ond mor ofalus fel bod pob gair yn ei le.
Fyddwn i ddim yn newid dim arni ... mae aeddfedrwydd a chyfoeth ei chyfanwaith yn gynnyrch gwir fardd...    

(Nesta Wyn Jones, 1993)

 

"Meistr ar ei gyfrwng..."    
(Y Prifardd James Nicholas, 1993)

 

"Prif nodwedd crefft y casgliad ydyw amlder y llinellau cynganeddol meistraidd.
Mae'r gamp yma yn mynd law yn llaw a'i harddull ragorol,ei llyfnder didramgwydd, cyfoeth ei geirfa ac amrywiaeth ei chystrawen.
Nid oes ganddo unrhyw faldod am eirfa farddonol ychwaith."
    
(Y Prifardd Geraint Bowen, 1990)

 

"Cerdd ragorol gan fardd rhagorol... Cynganeddwr medrus a bardd galluog."
Am 'Ysgawen Mewn Mynwent, dywedodd, 'Mae'r syniad a gyfleir yn un gwreiddiol iawn, a'r cynganeddu yn drawiadol o newydd a graenus ac rwy'n meddwl hynna'n llwyr!')
    
(Y Prifardd Alan Llwyd, 1990)

 

"Er cystal ei sonedau, ac er gwyched y cerddi rhydd, ei gerddi caeth sy'n tystio orau i'w ddawn anghyffredin.
Y mae'r gynghanedd yn ffrwyno ac yn ffinio ei sinigiaeth i'r dim." 
  
(Derec Llwyd Morgan, 1999)

 

" Bardd gorau yn y gystadleuaeth.
Mae yma feistrolaeth lwyr ar fesur a mynegiant. Mae yma ddefnydd cyfoes o iaith heb iddo fynd yn fratiaith."
 
        (Iwan Llwyd yng nghystadleuaeth y goron Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Mon a'r Cyffiniau, 1999.)


                    

horizontal rule

 

Dyfyniad am y gyfrol hon:

"Mae yma amrywiaeth rhwng y canu dwys, crefftus ei wead a'r hiwmor sy'n rhan mor bwysig o gymeriad y bardd hwn.
Mae'n grefftwr gofalus ac yn feistr ar y cyfrwng." (Adolygiad o'r safwe hon, Rebel ar y We; Dafydd John Pritchard, Llais Llyfrau; Hydref 1997)

 

horizontal rule

 

 

Defnyddio'r gwaith:     Gallwch ddefnyddio'r cerddi i'w hadrodd neu eu canu fel cystadleuaeth eisteddfod, ar radio neu deledu heb ganiatad yr awdur.
Dylid, nodi ffynhonell y cerddi, ond nid y caneuon, fel www.barddoniaeth.com.
Hawlfraint y cerddi a'r safle: (oni nodir yn wahanol): Cyfrifiaduron Sycharth, Mehefin, 1996 - 2008. Cedwir pob hawl.
Caniateir islwytho'r testun i un cyfrifiadur yn unig. Caniateir gwneud un copi caled ar gyfer eich defnydd chi yn unig. Ni chaniateir gwerthu na ffeirio na benthyg unrhyw ran o'r testun na'i drosglwyddo mewn unrhyw fodd i unrhyw berson neu bersonau arall heb ganiatad ysgrifenedig y cyhoeddwr yn gyntaf. Erlynir y diawled diegwyddor sy'n torri'r amodau hyn mewn llys barn.