| 
   
OLION TRAED 
Casgliad o gerddi a sgwenwyd dros 
ddeg mlynedd yn dilyn marwolaeth tad y bardd. Dyma ychydig o nodiadau gan Robin: 
 
Nodyn 1: 
  
Cyfeiria'r gerdd at gerdd olaf i Owain Owain
ei sgwenu - cerdd a gyhoeddwyd yn Y Gwyliedydd (gol Owain
Owain) Hydref 1989. Ailgyhoeddwyd y gerdd yn rhifyn 67 o'r Gwyliedydd (gol: Angharad
Tomos) - rhifyn Chwefror / Mawrth 1994. Dyma hi yn ei chrynswth:
 
Hyd draethell hanes 
myrdd 
yw'r rhai fu'n troedio. 
A rhwng eu llanw a'u trai 
gwelid olion eu traed 
yn y tywod llaith 
Ond - bob tro - 
deuai llanw arall   
gan chwalu'r olion traed 
yn ddim. 
Olion bob troed - 
ond un. 
A'r olion hynny 
(o Alffa'r Cread i Omega'r diwedd) 
yn gadarn eu ffurf 
a digymrodedd eu cyfeiriad. 
Nid unrhyw storm 
nac ymchwydd na phenllanw cryf 
allasai'u chwalu. 
Dim. 
Oherwydd dwfn oedd yr olion -  
a'u dyfnder yn fesur clir 
o drymder y llwyth a gariai: 
trymder dy bechod di a fi, 
yn rhoi i'r olion traed eu tragwyddol le.
 
Do, mi ges inau fy nihangfa meddwol, am ychydig
amser.  
 
Darllener llyfr y Cymro a'r gwyddonydd 
disglair Steven Jones ar eneteg; mae cyfrinach ein marwolaeth i'w gael
yn ein genynau a chyn hir byddwn yn gwybod holl ddirgelion ein cromosonau - a hyd ein 
heinioes! Bron nad oes fawr ddim
yn gyfrinach bellach. Yn yr un modd, gallwn olrhain hanes ein pobol drwy ein genynau ni,
heddiw. Efallai rhyw ddydd y byddwn hefyd yn medru gweld beth oedd lliw gwallt ein hen-hen Nain, maint
trwyn ein hen-hen-hen Daid, meddyliau ein hen-hen-hen-hen-hen Nain a'i bywyd cyfan yn
ffilm rhithwir ym mhob cell ohonom. 
 
Yn y byd sydd ohoni, os na
allwn weld rhywbeth, tydy o ddim yn bod. Y synwyr
cryfaf, trechaf, ysywaeth ydy gweld. Tydy'r erchyllterau ddim wedi digwydd yn Kosova 
ac yn Lebanon heb i ni WELD
y sgerbydau a'r cnawd. Rydym yn gaeth i dystiolaeth GWELEDOL, bellach, diolch
i'r teledu.
 
Digwyddiad go iawn gyda'r hen gyfrifiaduron Acorn tua 1987, er nad 'temp' oedd
enw'r ffeil yr adeg hono! Cymharer y gerdd hon gyda Traeth Lafan a Pan
Ddaw Gwyddonwyr Fory. Oddeutu 1983 arferai fy nhad a minnau greu ffractalau
mathemategol ar y cyfrifiadur, a chofiaf yn iawn y wefr o weld canghenau oddi fewn i
ganghenau oddi fewn i ganghenau  a bydoedd o fewn i fydoedd o dragwyddoldeb hyd
tragwyddoldeb - ar y sgrin.  
Roedd tori'n rhydd o gonfensiynau marmor 'y cyfryngau' ceidwadol
- y llyfr papur a'r
bedair sianel seisnig - yn hanfodol. Creu cyfrwng amgen (yn enw Cyfrifiaduron Sycharth) drwy
ddisg-fflopi yn gyntaf ac yna ar CD-ROMiau ac yna'r we fyd-eang, gan geisio gwthio'r
Gymraeg y tu hwnt i'r ffiniau arferol. Tristwch mwyaf Cymru ar ddiwedd mileniwm dau oedd
amharodrwydd ei gweisg papur i symud at dechnoleg arall, Technoleg Gwybodaeth, ar wahan 
i rai blaenllaw megis Gwasg y Lolfa.  
Mae yn y gerdd hefyd gyfeiriad at fy nhad, fy nghydwybod, a thad arall 
i mi, am wn i, fy Nuw.  
 
Yr Allt Fawr: darllener y stori fer
Mwyar Awst (Amryw Ddarnau, Cyhoeddiadau Modern Cymreig, 1968) tudalen 4. Mae dwy
gyfrol gyntaf Owain Owain ar y we (am ddim!). 
 
Bu farw fy nhad ar 19.12.93. Ar yr union awr, roedd Gwern yn
fachgen 3 oed ac yn fugail yn Nrama'r Geni, Capel Bathafarn, Rhuthun. Mae yma hefyd
gyfeiriad i gerdd a sgwennodd: 
 
 
  
    
    Cyhoeddwyd yn 23.12.65
     | 
    
    Teitl y gerdd:  
    Gwyl y Geni
     | 
    
    Cyhoedwyd yn: 
    Y Cymro (rhifyn Nadolig)
     | 
    
    Ad-argraffwyd yn Bara Brith (1971), Cerddi Ddoe a Fory (1977) ac yn Llyfr
    y Nadolig Cymreig (gol. Ifor ap Gwilym; Christopher Davies; 1980).
     | 
   
 
Mae'n rhyfedd fel y ceisiwyd efelychu'r gerdd 
'Gwyl y Geni' flynyddoedd wedyn gan Gwyn Thomas!
Y Dydd Olaf: nofel a sgwenodd fy Nhad;
cyhoeddwyd gan Wasg Christopher Davies, 1976. Yn y broliant i'r nofel, dywedodd Pennar
Davies, 'Yn Y Dydd Olaf cawn ddyn a fyn gadw ei enaid yn rhydd a'i feddwl
yn annibynol hyd y diwedd. Ni welwyd dim byd tebyg i'r llyfr hwn yn ein hiaith o'r blaen,
na dim byd hollol debyg mewn unrhyw iaith. Llawenhewn fod y math yma o ddisgleirdeb yn
bosibl yn y Gymraeg.'
 
Mae nifer o'r cerddi'n ein hatgoffa'n fwriadol o gerddi
eraill.
Un o arwyr fy Nhad oedd Saunders Lewis. Mae'r gwpled ola'n ein hatgoffa o linell ganddo
'Rhodd enbyd yw bywyd i bawb.' Mae'r linell 'Rhodd enbyd bywyd yw'r bedd' yn ei throi ar
ei sowdwl ac yn ei chicio yn ei thin.
Mae'r gair cyrch yma'n cyfeirio at ran o gerdd gan fy Nhad o'r enw
Amser
'Nid tad yw tad ar lan bedd.'
Fel Gwyn Thomas, bu  Gerallt Lloyd Owen hefyd yn benthyg llawer o ranau o gerddi  
Owain Owain. Cymharer y gerdd Amser, Owain Owain a
sgwennwyd yn Ebrill 1965 a'r awdl Afon,
gan G Ll O, a sgwennwyd ddeg mlynedd yn ddiweddarach, er enghraifft. Mae'r englyn 
hwn, hefyd, yn troi englyn o waith Gerallt ar ei sowdl
...
 
Defnyddir cynghanedd gadwynog bron drwy gydol y gerdd. Arbrofais
a hi gyntaf ar ddechrau'r wythdegau. 
 
  
    | Gwenwn a chalon gynes   
     | 
    Traws | 
   
  
    | Gwenwn a chalon gynes  a gwenwn ganwaith,   
     | 
    Sain | 
   
  
    | a gwenwn ganwaith, A gwenwn ganwyll | 
    Croes | 
   
  
    | A gwenwn ganwyll olau uwch dy angau 
    di | 
    Sain | 
   
  
    | Gwenwn am iti gynau ynom eto | 
    Croes | 
   
  
    | dy angau di;  Gwenwn am iti gynau ynom eto 
     | 
    Sain | 
   
  
    | gynau ynom eto Ganwyll | 
    Draws | 
   
  
    | Ganwyll, ac eto gwenwn  
     | 
    Draws | 
   
  
    | ac eto gwenwn er na welwn hi          
     | 
    Sain  | 
   
  
    | er na welwn hi. Gwenwn oherwydd gonest 
     | 
    Sain | 
   
 
ayb
  
  
 |