| 
 
            
  
    
     
     | 
    
Brenin y Sêr
Ro'n i'n unarddeg oed ac yn syllu i lygad 
amser, 
Ro'n i'n unarddeg oed ac yn wan a dihyder; 
Ro'n i'r lleiaf erioed, yn ddim byd ond gronyn 
Ar flaenau fy nhraed at y ser yn ymestyn. 
Ond mi glywais i'r lleuad yn galw fy enw: 
Dim ond i chi wrando, mi glywch chi hwnnw!
Brenin y sêr! Mae 'na gân heb ei chanu, 
Dringa i fyny, dringa i'r sêr! 
Brenin y sêr! Gall un gannwyll gynnau 
Dros fil o ganhwyllau, Brenin y sêr!
 
Ro'n i 'chydig bach hyn, 
(Wedi syllu i lygad amser!) 
Dim ond 'chydig bach hyn, 
Ac yn tyfu mewn hyder! 
Roedd 'na barti yn y nefoedd! 
Roedd 'na ddawnsio yn y sêr 
Roedd y lleuad yn canu mewn tocsido flêr! 
 
A meddai:
Rydwi yma fan hyn yn dal i syllu i lygad 
amser! 
Rydwi yma fan hyn yn orlawn o hyder: 
Ac wrth ochor y cwbwl a welais i gyd 
(Holl symffoni'r sêr a'r ehangder i gyd,) 
Mi glywaf y lleuad yn galw fy enw, 
Dim ond i chi wrando, mi glywch chi hwnnw!
 
Brenin y sêr! Mae 'na gân heb ei chanu, 
Dringa i fyny, dringa i'r sêr! 
Brenin y sêr! Gall un gannwyll gynnau 
Dros fil o ganhwyllau, Brenin y sêr!
     | 
    
    Cantorion:
      
    Bryn Terfel
     
     | 
   
  
    
    Cerddoriaeth gan: Robat Arwyn
     | 
   
  
    | 
    
     
      
       | 
   
  
    
    Hawlfraint: Robat Arwyn, Robin 
    Llwyd ab Owain a Curiad
     | 
   
  
    
    Copiau o'r llawysgrif - ar 
    werth oddi wrth gwmni Curiad
     | 
   
 
  
  
  
  
  
  
 |