
1978 - 1984
Gwin ifanc, a'i flas yn dryloyw, gonest ond
effemeral.
Canu led-led Cymru, Llydaw ac Iwerddon gyda'r grwp gwerin 'Cilmeri' a sgwenu 'Gwin Beaujolais' gyda Robat Arwyn. Yfwch!

"Yn y llaw fach mae'r holl fyd."
Ryan Davies
(Ar y cyd gydag Emyr Lewis, Ymryson y Beirdd,
Eisteddfod Aberteifi, 1976)
Yn fud aeth ei dafodau - ond rhywsut
Arhosodd ei stumiau
Yn y cof; 'does dim nacau
Adnabod ei wynebau.

Marwnad Beiro
Beiro a'i hun a bair ynof
Ei angau e' yw fy nghof.
Yn hysb ei waed er cryn sbel
A diau y bydd dawel
Ei hen gorff tra bo'n gorffwys
O bibo can ar bob cwys.
Heb hwn na dim, heb bin dur
A heb hudol deipiadur;
A'r ddoe - diawcs! Ni roddwyd im
Y banda - rwyf heb undim!
Dyflwydd fy mhensel diflas
Canmlwydd yw'r hen lechen las!
Hwn fu fy nghledd dros fy ngwlad -
Un ddeufin. Rwyf amddifad,
Rwyf unig heb arf heno,
Gwywo wnaf heb ei gan o:
A'i inc chwim, ei waed a chig
Y bol ystwyth o blastig.
Mor frau yw ein dyddiau dwys!
Fy mhrydydd sy 'mharadwys;
A Duw'n creu ei farwnad o -
Marwnad bur, marwnad beiro.

Colli Cariad
Oherwydd i'r hin dorri - a chalon
A chwalwyd yn rhewi:
Mae'r heulwen fu'n meirioli
Eira oer fy oriau i?

Mis Gorffennaf
Mae mireinder morwyndod - hon ar ben
A'i rhubannau'n datod;
Ynghlwm wrth batwm ein bod
Ildiodd i fwrw'i swildod...

Mis Mehefin
Mae 'nghymar a'i gwen araf - yn dadmer
Yn dyner amdanaf,
Yn hwyl y gusan olaf
Dyru'i throed ar drothwy'r haf.

Ym Mhriodas Noel a Nia
Davies
Ar las y mor angorodd, - yn y dwr,
A'i gwallt aur a welodd.
Aeth ar draeth a'i enaid rodd
A hi'n gyfan a gafodd.

Pam
(Cerddlun i godi arian tuag at Fwthyn Y Bedol, Rhuthun
yn Nant Gwrtheyrn)
Rhyw ddieithr wer a ddaeth ar hyd
Storiau byw ffenestri'r byd,
Gan haenu'i gen ar y gweinion gwiw
A chwyro'i lwyd ar bob chwarel liw.
Ond rhag unoliaeth ein dynoliaeth ni
Y bwthyn yw'r hyn a adleisia'n cri
Drwy warchod hen ryfeddod drud
Storiau byw ffenestri'r byd.
A rhodia'r iaith i droed y rhiw
I gadw'r llwyd o'r gwydyr lliw.

Ar Enedigaeth
Heledd Haf
Direidi'n croni'n y crud! Ti yw'r wawr
Ar y traeth disyfyd;
Nefoedd i ninnau hefyd
A gwên dy fam - gwyn dy fyd!

Trefor Davies, Bae Colwyn
(Cyflwynwyd y gerdd iddo ar ddarlun gan yr arlunydd Meirion Roberts)
Dy hun a roddaist unwaith - a rhoddaist
Dros ein rhyddid eilwaith,
Rhoddaist y cyfan ganwaith -
Rhoi oes, rhoi einioes i'r iaith.

Nadolig Rhai
Bataliwn o boteli, - Iesu Grist?
Sigarets a wisgi,
Fideos brwnt, chwydu a sbri
A gwin ... i gofio'r Geni.
Barddas Chwefror 1985
|