| 
 
            
1986 - 1990 
Cyfnod o greu gwin cartref yn 'Cynwyd' (un 
'n'!), 4 Stryd y Rhos, Rhuthun - Gehena o dy a'r gwin mor gryf ag y dymunwn iddo 
fod.  
Arbrofi gyda'r Gynghanedd Gadwynog. 
  
  
Ysgawen Mewn Mynwent   (Yr Adferwr, Hydref, 1986) 
Y Bedol   (Papur Bro Rhuthun a'r Cylch; Hydref 1986 
Testament yr Heuwr   (Barddas, Chwefror 1987) 
Claf o Gariad   (Y Faner, Mawrth 6ed, 1987) 
Rebel Mewn Siwt   (Mai 1987) 
I Eirian   (Barddas, Chwefror 1989) 
Dwy Genhedlaeth   (Barddas, Chwefror 1989) 
Tecwyn Lloyd   (Eisteddfod Llangwm, 1988. Hefyd Barddas, Chwefror, 1989) 
Saunders Lewis   (Barddas, Ebrill 1989. Tlws WD Williams) 
Y Gynghanedd   (Barddas, Ebrill 1990) 
Gwreichion   (Barddas, Medi 1990) 
Amser   (Barddas, Medi 1990) 
Wrth Gyfaill   (Barn, Hydref 1990) 
 
 
 
  
 
 
 
Gwelais dorllwyth ei ffrwythau'n glystyrau glas, 
yr aeron duon yn dew, 
yn ddudew eu haddewidion, 
a draig o hydref gwaedrudd 
yn distaw feichiogi'r ysgawen. 
Berwai i'r mêr o'r byw a'r marw; 
gogoniant y geni a lliw'r mwrning 
yn batrwm arni, 
bod a darfod law yn llaw mewn llan- 
yn briodas ysbrydol o'r byw a'r gwyw. 
Mae bôn ysgawen amryliw  
yn sugno marwolaeth 
gwerin Duw i'r grawn duon 
a gwerinos i'r grawnwin. 
Dagrau ar frigau digrin yn crynhoi, 
y crino a'r creu yn cordeddu 
fel cwyr diaddurn. 
Ac yn y dagrau roedd oesoedd, 
bydoedd o wybodaeth, 
yr had a geir mewn brawdgarwch 
a chyfrinach yr anadl - 
yr anadl sy'n troi'r esgyrn sychion 
yn aeron iraidd, 
a'r wylo'n orfoledd. 
Yn y demi-jon 
mae'r torllwyth o ffrwythau'n  
barod am y burum. 
Daw! Fe ddaw anadliad i drwyth yr ysgawen, 
a'r un anadl hono'n aileni calonau; 
un anadl - yna canoedd 
o grombil chwil y pedwar chwart. 
Er y claddu, 
draciwleiddiwyd her y coluddion - 
mae'r marw difarw ymhob diferyn 
a'r huno'n dihuno heno yn y swigod nwy 
wrth i hanes eplesu 
a'r ffrwtian yn gyffro eto - 
yn ddiwygiad yfadwy! 
Hir oes, chwi oroeswyr! 
Yfaf eich gwin gwerinol a byddaf byw! 
Dygwch i mi fy nhroedigaeth 
a'r ailenedigaeth hono 
fydd ailenedigaeth ein cenedlaethau, 
a thrwy hyn cyflun yw'r cylch. 
Proffwydwch, dawnsiwch, myn Duw, 
yn fy ngholuddion angladdol a bydol! 
Chwi ysgerbydau diangau, 
dihangwch o glydwch y gwaelodion, 
digonwch fy nghalon 
a dygwch i mi fy ailenedigaeth 
yn y wyllt filltir sgwar. 
I'r dianadl, di-wraidd, mewn dinas wâr: 
Vouvray, Beaujolais a phlonc Loire! 
 
 
 
  
 
 
 
(Papur Bro Rhuthun a'r Cylch, ar ei phenblwydd yn ddeg oed.)
Po dduaf fo'r nos afiach, - po dwyllaf 
Fo cwymp dall fy llinach, 
Haner nos mae'r seren fach 
Yn glaerwen - yn ddisgleiriach! 
 
 
  
 
 
 
Rwy'n hen, cyn dyfod henaint. 
Rwy'n darfod cyn dyfod haint. 
Nid fy eiddo i yw medi'r mor o yd. 
Mae tymor i'r hadau a thymor i'r hafau hefyd. 
Fi biau bywyd! 
Y bywyn - nid y grawn crin - sy'n llunio llinach. 
Gwynnach i mi na'r sypiau gwenith yw lledrith y llaw 
sy'n hau i alaw a chyfalaw y glaw a'r gwynt yn y glyn. 
Ar ben rhyw dalar unig o'r ddaear 
lle nad yw'r braenar yn brin 
edwinaf cyn dyfod henaint. 
A gwelaf fyddin o felinwyr a medelwyr y diawl 
yn hawlio cynhaeaf melyn y peiswyn a'r grawn, 
fel Pwyll a'i gwn yn sbeilio pill y gwanwyn, 
fel eigionau o lygod yn mwynhau yd Manawydan 
neu genfaint o foch yn rhochian ar y tir rhent. 
Tyrent yn fwlturaidd eu byd eiddig 
i fedi bywyd heddiw, a dwyn yr yd 
a chnwd anrhydedd. 
Och! Saith och! 
Nid yn yr adwy y safent hwy (Seintiau ein hoes!) 
ond ar hen lorpiau'r drol  
yn gwichian mewn cyfeddach losgachol. 
Och! Saith och! 
Chwythu a thuchan gan ddwyn y gwanwyn, 
gan foddi'r haf, 
gan feddwi'r hil. 
Ond dyna fo! 
Nid fy eiddo i yw medi'r mor o yd. 
Ennyd hirfaith cyn darfod ohonof 
i gofio'n gyfan y cyfanwaith - y gwaith yn y gwynt, 
y gwynt a'r glaw; 
dwy law'n pendilio had, 
dwy fraich yn adfer hil, 
fy maich yn trymhau a thrymhau 
a had tynghedu oedd ddoe'n blu 
heddiw'n blwm. 
Heddiw, fy ngwen yw f'eiddo. 
Rwy'n hen, cyn dyfod henaint. 
Marw'r rwyf, a hyn yw 'mraint. 
 
 
  
 
 
 
Neithiwr, ar ol dinoethi dy swildod di 
a llithro dan gynfasau llathraidd i'r cuddfannau cwyr, 
'rol llwyr ymladd, fel gwadd ar benrhyn hunell, 
dihunwyd arswyd ynof i, ond roedd hi'n rhy hwyr. 
Synhwyrais gusan arall yn ein Hafallon 
a hono'n ein gwahanu yn lle ein huno'n llwyr, 
rhywle yng Ngethsemane'r menydd daeth llofrudd * i'n lloc    
a'i fryd ar dolcio cawg y diliau cwyr. 
Hwyrach mai dau gywely yw angau a chenhedlu nawr; 
dy gasau'n uniad o gusanau na wahenir ennyd, 
dy garu'n ein gwahanu a'n hysgaru yn nawns y gwaed, 
a'r gwyw a'r byw ar wely-angau bywyd. 
Ein mynd a'n dod am ennyd yn diodi'i gilydd, 
Oni wyddost, 'nyweddi, mai fi yw dy ddienyddiwr? 
Yr angel yn genhedlwr angau, a'r hadau'n erydu, 
a'th fru'n diferu'n gyforiog o ddagrau crogwr? 
Hwren garpiog yw Heno, yn feichiog o afiechyd, 
a'r crud a fu'n fywyd sy'n fedd, f'anhunedd, fy ngwen! 
Ynom mae angau ynghwsg a'r Anghenfil yn disgwyl 
gwyl dy gwymp - a'r awr y bydd ei dymp ar ben. 
 
(* Y clefyd AIDS) 
 
 
  
  
 
O dan y siwt 
mae mellt ofnau 
yn sigo'r colofnau, 
clud. 
O dan y wên denau, gadwynog 
mae adenydd o dân a chogau 
a lluchedau ar chwal 
a chalon onest yn ymestyn am aer. 
O dan fy siwt lwyd 
mae breuddwydion aflonydd 
fel chwa newydd 
yn chwipio'r nos. 
O dan y mor pwyllgorau 
mae ffiws denau 
o dân yn llosgi,
llosgi, 
ond heb losgi'n llwyr. 
O dan fy siwt o dwyll 
(a nillad parch o gelwydd du) 
mae sgrech anarchydd 
wedi'i fygu 
ymysg y gwreichion erchyll, 
ymysg y colofnau mân. 
Yn fy nhawelwch canaid 
mae llef hen elyn; 
yn fy nghrys gwyn 
mae fy nghroes goch; 
o fewn fy nghlochdar parchus 
wyf blentyn yn chwarae; 
o fewn fy "Ie!" lofr 
mae fy "Na!" ieuanc, 
ac o fewn y llanc hwn 
mae gwallgofrwydd y lloer. 
O fewn y distawrwydd 
storm. 
Un dyn, dau wyneb: 
monswn o rebel mewn siwt. 
 
 
 
 
  
  
 
 
(Gwahoddiad i fy Mhriodi)
Cymer fi, cymer fy haf; - cymer fwy, 
Cymer fi a'm gaeaf; 
Cymer, ac fe'th gymeraf; 
Dywed y gwnei - a dwed 'Gwnaf!' 
 
 
 
  
 
 
Hi ei hun, 
yn wraig dros ei phedwar ugain 
draw a agorodd y drws. 
Hi ei hun, 
y weddw, 
a wahoddodd y llencyn i'w hystafell lom; 
hi ei hun. 
Yntau'n fawr hyn na phlentyn, 
yn ddyn heb iddo hanes, 
a welodd ei mynwes fel llanw'r môr, 
a gwelodd fwy - gwelod ei fam. 
Hon a'i chenhedlaeth a'i gwnaeth, 
hon a luniodd ac a genhedlodd ei gnawd, 
ac wedi'i arwisgo â gwaed yr esgor 
a dihuno'r cnawd a wahanwyd, 
rhoddodd ei chwymp a'i gwewyr iddo 
ac anadl ei thymp i'w genhedlaeth ef. 
Mor wyn oedd ei gwallt morwynol 
iddo ef yn ddyn o'r ddinas 
ac yn was i gnawd. 
A heb air o'i ben 
rheibiodd y ddoli rwber 
o wraig dros ei phedwar ugain 
nes i'w hwylofain ddiasbedain 
drwy oesoedd a bydoedd a ffatrioedd tranc. 
yntau'n ifanc yn ei ffustio'n nwyfus 
nes hollti'i chorff bregus a brau fel glaswelltyn 
a charthu, wedyn, i'w chroth ei hadau; 
y groth a luniodd ac a genhedlodd ar ei gnawd. 
Clywaf, a gwelaf ei gwaedd, 
ond ni wylaf, 
oblegid hi ei hun, 
yn wraig dros ei phedwar ugain 
draw a agorodd y drws. 
 
  
  
  
 
(Englynion cyfarch 'Llywarch', Bardd y Gadair, Eisteddfod Llangwm,
Mehefin 1988. Sgwennodd am effaith y mewnlifiad ar Landderfel.)  
 
Gwelaist dy wlad yn gwelwi - a gwelaist  
â'th galon ar hollti 
mor wag oedd ei marw hi. 
Ei marw fel fflam Urien - yn marw, 
a'r marw'n anorffen; 
mor fyw yw ein marw hen. 
Wyt hen, Lywarch, wyt unig - anadliad 
dy genhedlaeth seisnig 
a thlawd. Wyt ddetholedig. 
Dethol a digymdeithas, - difeibion 
diddynion dy ddinas; 
y Dre Wen, mwyach, heb dras. 
Bastardiaith, nid iaith dy dad, - yw'r Gymraeg; 
mae'r iaith mwy'n gyfieithiad 
a'th hil yn un erthyliad. 
Erthyl yw'r pen a borthi - ac erthyl 
o garthion a gleddi 
yn nos ein Llandderfel ni.
  
 
 
 
 
  
  
  
 
 
Cannwyll tan lach drycinoedd - a'i gwawr hi 
Yn rhy gryf i'r miloedd. 
I'r frwydr, rhy fawr ydoedd, 
Rhy Gymreig i Gymru oedd. 
  
 
 
 
Ei phlant cyfoes ac oesol - a enir 
Ohoni'n dragwyddol: 
Dail llên ar dderwen y ddôl, 
A hi'n ifanc, hynafol. 
 
 
      
 
 
  
 
 
 
1. Creu
Draw, 
gwelaf dren 
mewn gorsaf 
dan eira'n gaeth, tan glo, 
a than yr amdo'n barlys o rew. 
"Un dydd," medd taniwr y tren 
a'i drem ar ysgawen draw, 
fe dry'r brigau sychion hyn yn aeron iraidd!" 
 
Draw, ar ben y berth, dacw lygedyn melynwyn 
yn fflam o aileni 
a cholomen ddinam a fu'n cardota am dir 
yn stwyrian yn y distawrwydd wrth wneud ei nyth. 
Dacw eginyn planhigyn yn agor, 
fel murmur o olau'n meirioli gafael y gaeaf 
ac yng ngwyll y goedwig angau, llygedyn arall 
yn dadmer y fyddin gonifferaidd, 
un bore hir, 
a hi'n bwrw haul. 
Mi welaf yr olwynion ar y rheiliau yn gwreichioni ymylon a lon 
ac yn cynnau cenedl, 
a draw, lle bu'r gawod o ser, y dadmer yn dirf! 
Clychau'r dref yn tincial ochor draw: 
fe'u clywaf hwy'n atseinio'r drin 
a chyfrinach forwynol 
y gyrrwr, y taniwr a'r llumanwr mwyn. 
Arhosaf o fewn yr orsaf, ennyd. 
Crensian esgidiau-loncian yn pystylad ar lon 
ac oernad rwygol aradr eira. 
Ffatrioedd yn gwallgofi tan graffiti'r ieuanc, 
pob slogan yn riddfan rhugl 
a phob sgribl yn sgrech. 
Wybren yn dadebru 
a'r pibonwy'n diferu ar dir ein hamynedd 
yn fysedd ar fwrdd 
neu dadwrdd drymiau dawns, 
neu fwledi'n cofleidio cyrff. 
Blociau o fflatiau'n dihuno yn hafflau'r haul; 
cryndodau gwingllyd ceir yn cynhesu 
ac oernadu seiren ar ol seiren yn llenwi'r dref -  
a'r cyfan yn datgan 
fod un  
yn dadlaith ohoni hi ei hun 
genhedlaeth newydd. 
2. Dileu   
"Edrychwch drwy'r ffenestri!" 
Uchod, mae'r mynydd du'n diferu o dan 
a'r hogiau'n ei ffyrnig ddiwel dros y ddaear 
gan lygadu'r egin a'r Mehefin y tu hwnt i'r heth. 
Ein geni ddoe ohoni hi'r Famddaear yn noeth, 
yn benboethiaid, 
heb fresys, heb grys ar groen! 
'Does dim yn eiddo i ni, 
na phiano na ffenestr na ffôn, 
a 'dydi'r llestri pridd yn ddim ond rhai dros dro; 
'dydi cyfreithlondeb y dderbyneb yn ddim 
mwy na gweithredoedd neu gytundeb y ty. 
Ar fenthyg mae'r egin a'r grug 
a brych pydredig y groth, 
benthyciwyd i ni ein breuddwydion, 
nid yw'n coluddion ond clai. 
Nid oes einioes yn eiddo i neb, 
na gwas na chaethwas na'r un forwyn chwaith, 
nac enaid wedi'i lurgunio gan genedl, 
nac un anifail genetig wedi'i gynaeafu. 
Y ddaear bia'r bywyd i gyd sy'n ei gwely gwâr! 
ninnau ei lletywyr esgeulus yn ei gwylad 
a hithau'n gwelwi. 
Ei gwarchod a wnawn am brynhawn ein hoes 
fel y Winllan honno a roddwyd i'n gofal gynt. 
A phwy yw perchen y ddaear ond y dyfodol pellennig: 
y grym yn y groth,  
ein hyfory niferus? 
Hyn yw'n heiddo, nid heddiw. 
Llunio'r yfory yw ein difyrrwch, 
ein heiddo a'n meddiant, 
a'i lunio 
drwy greu, 
dileu 
ac adeiladu. 
Oblegid ni yw etifeddion y tân a lysg yr hil 
o'i gaeaf i'w haf hi, 
a'i thraddodi o genhedlaeth i genhedlaeth. 
Onid oblegid y blagur y tasgwn y tân ohonom 
yn gawod, uchod ar y mynydd du 
lle buom yn dileu'r heth, y banadl a'r eithin 
a gwreichioni'r grug?  
Ac yna, wedi diffodd ohonom fel cannwyll, 
dychwelwn i'r ddaear yn noeth 
ac yn oer, 
heb fresys na chrys na chroen! 
3. Dileu (eilwaith)
 
Môr o law'n gorthrymu'r wlad, 
yn dirlithriad ar lethrau, 
yna, eiliad o dawelwch. 
O 'mlaen ar y cledrau saif maen mud 
yn fur rhyngom a'n hyfory. 
Clywch! Dacw'r taniwr yn galw'r gofaint i wneud gyrdd! 
Gwneud i ddadwneud a wnawn, 
a dadwneud i ddadeni wedyn. 
Af i ganlyn y gwyr ifanc i efail 
y fro sy'n goleuo gwlad. 
Braich ar ôl braich yn rhannu ffurfafen o wreichion 
i'n calonnau clyd, a'r fflam yn llamu ym mhob corff! 
Troi, i ddychwelyd i'r trên: 
'Y tren olaf adref!' 
yn swn trosolion ac ergydion gyrdd. 
Miwsig cyntefig grwp mewn tafarn 
yn torri difaterwch hynafgwyr 
yn seibiau oerion o ddistawrwydd rhwng barrau eirias; 
a gwelais genhedlaeth yn dileu cenhedlaeth 
mewn anadliad! 
Llafnau o feirdd mewn ymryson 
yn unioni hunaniaeth ar hen einion. 
Trywanu'r gwreichion yn farddoniaeth 
gyfoes o oesol, 
yn ferw ei nwyd, nid rhyw farwnadau. 
Pren ysgawen mewn parc yn gwisgo'i hun 
â les ei gwanwyn hi, a'r gwyn fel plisgyn wy. 
Wrth ei bôn: swp o arwyddion ffyrdd yn deilchion 
yn ei llwyn fel dail llynedd. 
Draw ar fryncyn, 
dacw furddun a fu'n gartref unwaith. 
'Gwell adfail na phlas ysbeiliwr!' ebe'r taniwr, toc. 
Chwiban y llumanwr -  
ond yna, rasal o sgrech las, 'Arhoswch! 
Mae hyn yn drais.' 
'Trais,' ebe'r llumanwr 
'yw'r ffust yn ystlys fy merch, 
y gatrisen ym mhen fy mab 
a'r hollt ym mhenglog fy mrawd. 
Hyn yw trais. 
Ni wyr na maen na phren na dur un dim 
am gur a gwewyr hil!' 
Ac ebe'r taniwr, 'Ymlaen! 
Nid yw'r daith ar ben!' 
4. Adeiladu
 
Try olwynion olyniaeth 
tua'r haf y tu hwnt i'r trwyn. 
Aros orig am seibiant cyn ei gyraedd. 
Clywch swn plant fel clychau, 
draw ar wefus o draeth; 
pob un yn Gymro uniaith yn adeiladu wal lydan 
o dywod a'i chodi'n warcheidiol 
rhag i'r môr estron ddiffodd fflam eu calonnau. 
Gair ar ben gair yn troi'n frawddegau hirion 
a'r geiriau'n union fel y gronynau 
yn treiglo, llithro i'w lle. 
Brawddeg ar frawddeg yn ynganu 'Rhyddid!' 
gan fydryddu'n orchest o rap 
a'r geiriau ifanc, gwyryfol 
yn glystyrau tanbaid ar glawdd! 
Rhawiad ar rawiad o baragraffau diatalnod 
a'u nodau'n codi a dringo fel ehedydd; 
llefaru'r plant yn llif euraid, 
pob un â'i dafod ar dân 
fel draig ar wefl o draeth. 
Pob gair yn clecian fel gwreichionen eirias 
neu follten ar fur! 
Mor hyglyw ydyw'r iaith â hi'n doreithiog, 
yn gyfoethog ar riniog yr haf - 
nid rhyw gyfieithiad! 
Clywch! 
Iaith euraidd yw gwneuthuriad 
y mur, a mur yr hil yw'r Gymraeg; 
hi yw'r gobeithion bythol, 
y gwreichion 
a'r aeron ifanc a dyf ar bren hynafol 
yr ysgawen. 
Troi at daniwr y trên 
i'w holi'n awchus pa bryd y cawn ni gychwyn 
tua'r haf y tu hwnt i'r trwyn. 
Ond nid oedd yno 
ond ei fflam 
a'i air. 
 
 
 
 
  
  
 
Er plicio'n rhwydd bob blwyddyn - haen wrth haen, 
Fe dry'r wên yn ddeigryn; 
A'r cyffro'n ddadwisgo dyn: 
Nid yw'n heinioes ond nionyn. 
 
 
 
  
 
 
 
Heno, rwy'n rhan ohonot: 
fy llwyddiant sy'n llwyddiant i ti, 
dy chwerthin a'm goglais innau 
a'th dristwch yw 'nhristwch i. 
Un gwas pob meistr a gaed, 
un gwaed yw'r cwbwl i gyd, 
un waedd, ac felly'r weddi, 
un boen yw holl boenau'r byd. 
Un fam pob mam a merch, 
un wefr yw pob gwefr yn wir, 
un einioes drwy'r holl oesoedd 
a lle roedd tiroedd - un tir. 
Doe, heddiw ac yfory 
Yn un winc, a'r cwbwl yn un! 
Dynion: pob lliw'n cyd-dynnu. 
Un lliw yw pob lliw a llun. 
Heno rwy'n rhan ohonot 
a'r byd, sy'n un cyffro byw: 
un miragl o firaglau, 
uffern pob uffern yw... 
  
 
  
 |