| 
              
1991 - 1992 
Chwipio draw i Werddon gyda ffrindiau, yna gydag Eirian, priodi, 
magu teulu.  
Ennilll cadair y Genedlaethol. Y Melys a'r Chwerw. 
  
 
Anrheg Nadolig Cyntaf Gwern 
Nid rhuddem a'r wawr drwyddi - a lapiwyd, 
Nid lapislaswli, 
Nid aur oedd dy anrheg di, 
Na nid diamwnt... ond dymi! 
 
  
 
 
 
Merch Ein Hamserau 
('Nid yw cariad yn darfod byth...' ) 
 
Nodyn gan y golygydd: Ochr wrth 
ochr a'r gerdd hon dylid darllen (neu warnado ar) 
 'Ti' gan Edward H Dafis, caneuon Tippet ('A Child of our Time'), a 
'Bangor' gan Bryn Fon. 
Defnyddiwyd geiriau byw, cyfoes drwyddi gan mai dyna eirfa'r bardd.  
  
Mae'r gerdd hefyd yn ddau fys i 'seicoleg pepsicola' America (chwedl y Prifardd Emyr 
Lewis) ac ieithwedd yr awdlau a'i rhagflaenodd. 
"Gwelir dylanwad y gerdd hon yn gryf ar yr awdlau a'i 
dilynodd hi." yn ol Barddas, 1997. 
Yn ol y Prifardd 
Eirian Davies, "roedd darllen yr awdl hon yn brofiad ysgytwol ...  
torrodd dir newydd o safbwynt yr awdl
eisteddfodol." 
      
 
 
1. 
Os bu'r 'gwybod' fel brodwaith - anghymen, 
Anorffen, amherffaith, 
Trodd cariad di-wad ein taith 
Yn adnabod, yn obaith. 
Bum unig heb amynedd - un nos hir 
Ddi-ser fy alltudedd 
Yn ddiorwel fel Heledd: 
Alltud rhwng bywyd a bedd. 
Haen o briddell heb wreiddyn - fum unwaith 
A mynwent heb ddeigryn 
Neu foroedd heb ddiferyn, 
Haul heb liw, oriel heb lun, 
Maneg heb law, crys heb lawes, - y ddoe 
Ddiddiwedd, difynwes, 
Ennyd heb iddo hanes 
Neu walch heb rwysg, neu gloch bres 
Heb dafod, gardd heb flodau - neu dan 
Heb danwydd na golau, 
Ton wen heb wynt yn y bae 
Neu onnen heb ganghennau. 
Hebot gwag oedd fy mebyd, - fy mharhad 
Oedd fy mrwydyr enbyd, 
Bwa heb ffidil bywyd 
Oeddwn, diemosiwn mud. 
O borthladd i borthladd y bum - o winllan 
I winllan yr euthum, 
Wedi'r daith adre deuthum 
A gwin fy haf a ganfum. 
Edau yn canfod nodwydd, - ym mherfedd 
Morfil o unigrwydd 
Yr ansicr drodd yn sicrwydd 
A throdd dyn yn blentyn blwydd. 
2. 
Pan oedd y wendon yn ei dicllonedd 
Clywais d'arogl yn arogl cyfaredd, 
Hwyliais i fae gorfoledd - dy galon 
A chael Afallon a chlo fy allwedd. 
Brwydr yr ieuanc fu'n berwi drwof 
Hyd oni theimlais dy dresi drosof, 
Aeth ymryson ohonof, daeth suon 
Adar Rhiannon i drydar ynof. 
Wyt Dref Wen ein hil. Wyt dirf anialwch, 
Hyder y galon lle bu dirgelwch. 
Wyt alaw mewn tawelwch. - Wyt weithiau'n 
Cynnau canhwyllau yn fy nhywyllwch. 
Wyt had fy mharhad. Wyt dwf fy mhryder. 
Wyt wawn, wyt wenau. Wyt wanwyn tyner, 
Y blaendwf a'i ysblander - ac weithiau'n 
Ewin o olau mewn byd ysgeler. 
Wethiau, am ennyd, yng nghampwaith Monet, 
Ti yw yr eiliad sy'n mentro i rywle 
Ar wyneb aur ein bore, - ond wastad 
Mewn gwlad tan leuad, wyt win Beaujolais. 
Wyt wawl fy mawl. Wyt win St Emilion. 
Wyt ffiol risial i ddagrau calon. 
Wyt win cyfriniol y fron. - I'm gwefus 
Wyt lafoer melys, wyt liw fermilion! 
Mae fy nghan ifanc, mae fy nghynefin 
Ynot a rhythm borewynt drwy'r eithin, 
Wyt gyffro Giro mewn jins - sy'n datod. 
I 'mwa hynod wyt ffidil Menuhin. 
 
 
Lleuad y nos a fu'n tywallt drosot 
A'i rhaeadr ieuanc o gytser drwot, 
Minnau yn fflam ohonot, - Erin f'oes; 
Rhannaf fy einioes, serennaf ynot. 
3. 
Cymer fi, cymer fy haf, - cymer fwy, 
Cymer fi drwy 'ngaeaf,  
Cymer ac fe'th gymeraf: 
Dywed y gwnei a dwed, 'Gwnaf!' 
Dau lais ein ffidil iasol - yn uno 
Am ennyd ysbeidiol 
Ond tonnau gwyllt Donegal 
Yn ein hasio yn oesol. 
O'Donohues, dau yn un. Ein deuawd  
Yn diwel dros Ddulyn 
A dau lais ein mandolyn 
Yn un gofer, yn gyfun. 
Un nodyn o 'nhelyn i - yw Erin, 
Wyt Bair y Dadeni. 
Ateb, a gaf fod iti 
Yn nodyn o'th delyn di? 
Yn anghytgord y cordiau - mae arswyd 
Amhersain... ond weithiau 
Newydd yw'r harmoniau 
Ddaw'n ffrwd o goluddion ffrae. 
Yn dy faldod datodaf, - yn d'anwes 
Dyner y meiriolaf, 
Yn dy gol di y gwelaf 
Eigion o wen yn dweud, 'Gwnaf!' 
Un nos hir ein hamserau - ddiflannodd  
Fel ennyd, bydd dithau 
Yn ganiad o'm caniadau, 
Bydd ganiad uniad ein dau. 
4. 
A gaf i heno wagio fy enaid, 
Arllwys ei gynnwys i'th ffiol gannaid 
A chynnau ag ochenaid - ganhwyllau 
Ein Nadoligau yn nwfn dy lygaid? 
Yn dy winc araf mae trydan cariad, 
I minnau heddiw mae hen wahoddiad, 
I ni'n dau mae'n dyhead - heb ddadl 
Yn drwm o anadl ein storm o uniad. 
A daw'r eira'n rhugl o Gaer Arianrhod 
Fy nghorff a'm noethni fel pili-palod. 
Cael ym mhinacl y mannod - betalau 
Taer dy amrannau yn cau mewn cawod. 
Can i mi'n gyfoes f'offeryn oesol, 
Reggae gwahoddiad a'r Blues tragwyddol, 
Can yn ifanc hynafol - dy nodau 
A chan ar rythmau'r caniadau cnawdol. 
Rhof innau'r cordiau ar dap-recordydd, 
Rhoi drama einioes ar fideo'r 'mennydd 
A rhoi ar go'n dragywydd - freuddwyd llanc 
A'th lwynau ieuanc yn fythol newydd. 
Yn y cnawd gwynias mae can digonedd, 
Ym mru yfory mae hen gyfaredd, 
Clun ynglun, gweinied fy nghledd - drwy'r storm chwil 
Yng nghaer fy hil mae had fy ngorfoledd. 
I'n gwar ymryson daeth grym yr oesau, 
Ym mhair marwolaeth mae murmur o olau 
A ffrwd ein cyffroadau, - mae gwawrddydd 
Hyn na llawenydd yn had ein llwynau. 
Mae hen wahoddiad yn fy mhinwydden 
Eilwaith. Amdanaf mae dy ffurfafen 
Yn hyder am fy nghoeden - cyn toddi 
A ni'n meirioli mewn mor o heulwen. 
5. 
Branwen a Biriani 
A mwy yw cariad i mi! 
Car ar daith o'r crud yw hwn, 
Trwy orfoledd trafaeliwn. 
'Can Walter' ar ol cyri -  
Oer a lleddf fel tonnau'r lli 
Yn plycio o'r gro'n garuaidd, 
Plycio rhyw atgo o'n craidd. 
Cariad yw mynd a'th adel, 
Ffoi ar wib heb ddweud ffarwel 
A ffraeo cyn ffustio'r ffon 
I'w grud - a ni'n gariadon! 
Ac Erin, hyn yw cariad: 
Poeri i wynt ein parhad 
Ac ail-lunio rhagluniaeth 
Ein taith bell er gwell, er gwaeth. 
Cariad yw hel profiadau 
Ynghyd a'n llygaid ynghau: 
Ffoi ar fodur ffair Fedi 
I nos dawdd dy fynwes di. 
Mynd o nef munudau nwyd 
I Foel Fenlli'n felynllwyd: 
Swigod ar draed yn codi, 
Hyn oll yw cariad i ni. 
Fel swyn nyth, fel les hen nain 
Mae parhad cariad cywrain 
Trwy'n tylwyth yn gweu pwythau 
Neilon o'n breuddwydion brau. 
Cariad ni wel aceri 
Rhyddid ein hieuenctid ni 
Yn gwibio heibio o hyd: 
Buan yw traffordd bywyd. 
6.
Dall ydyw amser, ferch ein hamserau, 
ac anweledig yw ein heiliadau 
Yn ei labrinth o lwybrau - trafaeliwn 
Ac ni arhoswn. Wyt gan yr oesau! 
Bum gan mewn potel a Blues y felan, 
Yn weddi Largo ar nos ddiloergan 
Nes y cefais y cyfan - o'th gan di 
Yn llenwi'r gwegi. Wyf gerflun Gauguin! 
Cyn tyrr y Ddaear ei llinyn arian 
Cyn diffodd amser fel lleufer llwyfan, 
I ninnau rhoed mwy na'n rhan: - epiliog 
Yw nodau beichiog pob ennyd bychan. 
Yng nghylchoedd ein bod y cwsg darfodaeth. 
Ond i'n hymlyniad ni mae olyniaeth 
Edau arian cadwriaeth - daear frau 
Yn wawn o olau lle cwsg dynoliaeth. 
I'n hawr o heddwch daw gwanwyn rhyddid 
I agor y blagur ir oblegid  
Sanctaidd yw croes ieuenctid: - y parhau 
A geni o ddau gan o addewid. 
A daw dynoliaeth o'i mud anialwch! 
Wyt had o gariad a goddefgarwch, 
Yng nghymrodedd a heddwch - cyfanfyd 
Ti yw yr ennyd sy'n llawn tirionwch. 
Dall ydyw amser, ferch ein hamserau 
Ac anweledig yw ein heiliadau, 
Yn ei labrinth o lwybrau - trafaeliwn 
Hyd oni welwn y byd yn olau. 
7.
Un yw dyn a daioni. Ond er hyn 
Mae'i drem ar ddifodi: 
Ganwaith ers awr ein geni 
Saddam ein hoes ydym ni.
Mae Irac y Gymru hon - yn llawgoch, 
Yn llugoer ei chalon, 
Heb glywed iaith gobeithion 
Na rhin cyfriniol dy fron.
 
 
Rho'r bai ar wacter bywyd - can o Goke 
Yn y gwynt crintachlyd! 
Diflas a bas yw ein byd 
Oni feddwn gelfyddyd. 
Hyn o nialwch anwylom! - Ei afael 
Sy'n gwallgofi'n hymgom:  
Ni o bawb yn gaeth i'r bom! 
Dilynwn y diawl ynom! 
Ynom hefyd mae afon - a'i ffrydiau'n 
Gyffroadau calon,  
Hen ddwfr, hen win y ddwyfron 
Yn creu, ail-greu planed gron. 
Un cyfle gawn rhag dilead - heulwen, 
Ecoleg y cread 
Sydd ynom ni'n eginhad 
Ac Erin, hyn yw cariad. 
Tarian y gwar yw trin geiriau, - rhoi llais, 
Rhoi lliw i'r munudau, 
A rhoi awen i'n gwenau 
A chwerthin prin i'n parhau. 
Wyt ennyd ym motaneg - pabi gwyn, 
Pob gair o 'mywydeg! 
Yn rhythmau'r petalau teg 
Wyt linell o'm telyneg. 
8.
Aberhenfelen ni welaf heno 
Na'r un madruddyn a chleddyf drwyddo, 
Ni ddaw Heledd i wylo; - ym mydoedd 
Ein hymysgaroedd mae ias y gwawrio. 
Wyt fur o hyder mewn byd difrodus. 
Wyt yn afallen mewn tir anghenus. 
Denim mewn bro dihoenus - ei brethyn. 
Wyt yr ewyn gwyn ar beint o Guinness. 
Wyt Ewropead, yn wlad heb dlodi. 
Wyt awyr Glasnost. Wyt dir y glesni. 
'Yma o hyd' wyt i mi - fel hen chwedl, 
Yn wyrth o genedl, yn groth y geni. 
A mab a anwyd o'n mil breuddwydion, 
Yn un haul newydd, yn olau neon, 
Yng ngwin cyfriniol dy fron - mae teulu 
A lleuad fory'n y lli diferion.
(Nodyn gan Robin: 'Gwern' oedd enw mab Branwen  
yn y Mabinogi, a dyngwyd i farwolaeth gynar.  
Dyma hefyd yr enw a roesom ar ein plentyn cyntaf.) 
Mae'r geni'n goroesi ffiniau'r oesoedd, 
A'r waliau'n dymchwel heb swn rhyfeloedd, 
Un ydym, un yw'n bydoedd, un teulu 
Gwiw yn anadlu yw'r holl genhedloedd. 
Mae gen i freuddwyd am gefnfor heddwch 
Yn frwd o gariad ac am frawdgarwch, 
Am ddeilen, am eiddilwch - y byd gwyrdd 
Heddiw'n fytholwyrdd ond ddoe'n Fatholwch. 
Rhes hir o brofiadau'n trwsio'r brodwaith. 
Wyt leuad borffor. Wyt eiliad berffaith.  
Wyt for o gariad. Wyt iaith - cyfamod. 
Boed ein hadnabod yn don o obaith. 
 
 
  
 
 
Ar Ddydd Priodas 
(Dwyryd Roberts a Ceri Thomas, 17.8.91) 
I'r llwydrew dilewyrch, di-liw - y daeth 
Llafn y dydd a'i ddyfrlliw 
Drwy haul Awst eich ffenestr liw 
Am ryw eiliad amryliw. 
 
 
 
 
  
  
 
 
 
Sandra Picton (C'mon Midfield) 
Ei holl osgo'n ein llosgi; - canhwyllbren  
Yw'r denim amdani 
A thân ei chenhedlaeth hi 
Hydreiddiodd yn wawr drwyddi. 
 
 
  
 
 
 
George (C'mon Midfield) 
A hyder yr amserau - dinoethaist  
Ein hiaith o'i hualau: 
Lleder du'n lle brethyn brau, 
Denim lle bu cadwynau. 
 
 
 
 
  
  
 
Yn Ysbyty Gwynedd 
Un awr hurt, hir ei artaith - sy'n einioes 
Annynol o hirfaith, 
Ac amorffig, amherffaith 
Yw hyd ein munudau maith.
 
 
 
  
  
 
Y Cerdyn Nadolig 
Eira'n drwm - 
yn got o gotwm ar gytir 
a'r maestir yn wyn fel Mair. 
Eira pur yr amserau wedi fferu 
a'r pin yn frenhinol dragwyddol, 
yn ganhwyllau gwer. 
Seren egwan yn cynau Seren 
a'i gwen yn ein consurio 
a'n lledrithio'n llwyr. 
Dacw dri'n penlinio yn ei goleuni 
o flaen y glanaf a'r gwynaf ei gwedd: 
Mair wen lan. A dyma'r mab: 
y baban difrycheulyd a anwyd ohoni:  
Duw a dyn wedi uno'n gyfanwaith! 
Am ragrith! am rwts! 
Fe'm lledrithiwyd yn llwyr! 
Nid yw'r llun yn llawn, yn gyflawn; 
mae rhan ar goll! 
Y tu hwnt i ymylon teg y llun mi welaf Mair 
ymysg y bustych, yn griddfan ac yn tuchan 
drwy'i chyhyrau tynn 
a bwa'i chorff yn staen porffor. 
Ym mudreddi'r stabal mae'r geni'n rhwygo'i gwedd 
fel y rhwygodd ei gwisg 
cyn iddi wlychu ei gwely gwair; 
chwysu a bustachu yn y baw a'i stomp - 
bustachu heb steil. 
Mae eiliad cyhyd a miliwn 
pan fo'r byd yn llafn o boen. 
Hithau yn gwthio'i hun drwy ei gwythiennau 
nes i'w sgrech noeth esgor ar waedd, 
nes i'w phoen esgor ar gorff hyll o hardd, 
hardd o hyll. 
Ac wrth y carthion 
y tu hwnt i ymylon y llun mi welaf 
Fair y fam, 
fel pob mam 
ym mryntni'r geni yn synhwyro gwyrth. 
Ac yn ei dwylo - 
wedi'i beintio'n binc - 
yr ymgnawdoliad 
yn ysgarlad ac yn borffor 
yn ei wisg o waed. 
Ac yn berffaith! 
Dau lun gan ddau arlunydd 
a dwy ran o'r cyfanwaith 
yn agweddau ar yr un digwyddiad. 
A'r naill heb y llall 
yn unochrog, 
yn unllygeidiog, 
yn gysgodion lliwiau, 
yn wirionedd gau 
ac yn gelwyddau gwir. 
 
  
 |